Gofalwyr Oedolion Ifanc (YAC)
I ofalwyr 16-25 oed
Mae yna brosiect ymroddedig i Ofalwyr Oedolion Ifanc yn Sir Gâr yn darparu cymorth i ofalwyr 16-25 blwydd oed, ble bynnag maen nhw’n byw yn y wlad
Gallech gael cefnogaeth trwy brosiect YAC a chael y cyfle i gwrdd eraill o oedran tebyg gyda phrofiadau fel nad ydych orfod teimlo’n unig neu yn ynysig fel mae llawer o ofalwyr ifanc yn teimlo
Gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn cynnwys:
-
- Gweithiwr allweddol ymroddedig yn darparu cymorth un-i-un yn eich cartref neu gymuned
- Cynllun gweithredu unigol i helpu chi cyflawni newidiadau positif yn eich bywyd
- Partneriaeth yn gweithio gyda gwasanaethau eraill sy’n gallu helpu
- Helpu cysylltu gyda darparwyr addysgu a chyflogwyr i gyfeirio unrhyw broblemau
- Mynediad i rwydwaith cefnogaeth gan gymheiriaid o bobl eraill eich oedran yn wynebu materion tebyg
- Gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau
- Cyfeirio a gwasanaethau gwybodaeth yn cynnwys adnoddau ar-lein
- Grwpiau sgiliau bywyd fel adeiladu hyder ac iechyd a lles
Os ydych rhwng 16-25 oed ac yn edrych ar ôl rhywun, ffoniwch Mel Rees-Lewis
ar 0300 0200 002 neu e-bostiwch melanie@carmarthenshirecarers.org.uk am ragor o wybodaeth
Blynyddoedd Addysgol Gofalwyr (CEY)
I ofalwyr 5-18 oed
I ofalwyr ifanc 5-18 blwydd oed, mae’r cynllun CEY yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, gweithgareddau seibiant a chlybiau grŵp cymheiriaid i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill
Mae yna dau glwb ieuenctid i ofalwyr yn eu harddegau wedi lleoli yng Nghaerfyrddin a Llandybie, a thri chlwb ieuenctid i ofalwyr 5-11 oed yn Llandybie a Llanelli
Mae ein tîm o weithwyr cymorth yn cwrdd gyda gofalwyr ifanc yn yr ysgol, yn y cartref, neu yn y gymuned am gefnogaeth un-i-un, ac rydym yn ymuno gyda sefydliadau lleol i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir
Os ydych o dan 18 blwydd oed ac yn edrych ar ôl rhywun, ffoniwch Cat ar 0300 0200 002 neu e-bostiwch cat@carmarthenshirecarers.org.uk am ragor o wybodaeth