Mae gofalwyr yn dweud bod mynediad i wybodaeth, cymorth cyllidol ac egwyl wrth ofalu yn hanfodol i helpu nhw rheoli’r effaith mae gofalu yn gwneud ar eu bywydau.
Darparir Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i Ofalwyr. Rydym yn cynhyrchu a dosbarthu gwybodaeth i ofalwyr ac yn trefnu digwyddiadau cyson mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill.
Mae ein cylchlythyr ar y chwarter, Newyddion Gofalwyr Sir Gâr, yn anelu i hysbysu Gofalwyr a’r bobl maent yn cefnogi amdano faterion polisi, gwasanaethau a sefydliadau sy’n gallu bod yn help iddynt.
Cliciwch yma i weld a lawrlwytho rhestr o daflenni ffeithiau defnyddiol
Yn ychwanegol i’r wybodaeth rydym yn cynhyrchu, rydym yn trefnu digwyddiadau cyson i Ofalwyr yn cynnwys boreau coffi, grwpiau ffocws, a digwyddiadau blynyddol i farcio Wythnos Genedlaethol Gofalwyr ym mis Mehefin a Diwrnod Hawliau Gofalwyr ym mis Tachwedd.
Ariannir y gwasanaeth gan Gyngor Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r gwasanaeth allgymorth yn gallu helpu gofalwyr i optimeiddio ansawdd bywyd a lles i alluogi iddynt i barhau bod yn effeithiol yn ei rôl gofalu
Mae ein tîm o Weithwyr Allgymorth Gofalwyr yn brofiadol mewn darparu cymorth un-i-un i ofalwyr gyda gwybodaeth ddiweddaraf amdano’r gwasanaethau cymorth amrywiol i ofalwyr a’r bobl maent yn cefnogi
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cyfan Sir Gaerfyrddin ac mae apwyntiadau yn gallu cael ei drefnu yn eich cartref neu mewn lleoliad arall
Sut gallaf drefnu apwyntiad gyda Gweithiwr Allgymorth Gofalwyr?
Trwy ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr ar 0300 0200 002 neu trwy e-bostio info@carmarthenshirecarers.org.uk
Gallech ofyn am apwyntiad trwy gofrestru fel gofalwr gan eich Meddygfa Meddygon Teulu (GP) trwy ffurflen gofrestru Buddsoddwyr mewn Gofalwyr
Buddsoddwyr mewn Gofalwyr
Mae cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gynllun arobryn unigol i Hywel Dda a Chymru sy’n annog i bob meddygfa ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro i fabwysiadu a hysbysu’r gwasanaethau ymarfer a chefnogaeth gorau i Ofalwyr.
Gall y gwasanaethau a chymorth yma cynnwys:
- Ymwybyddiaeth a hyfforddiant gofalwyr i bob aelod o staff
- Adnabod ac atgyfeirio Gofalwyr i wasanaethau cymorth lleol a hanfodol
- Deunyddiau hyrwyddo wedi ymddangos yn fannau aros ynglŷn â chefnogaeth a sut i gael mynediad i wasanaethau
- Cysylltu gydag asiantaethau allanol er mwyn cefnogi Gofalwyr yn well
- Ymrestru adborth Gofalwyr mewn i gwelliadau yn y Feddygfa
- Gwella iechyd a lles Gofalwyr
Am ragor o wybodaeth am y gynllun cysylltwch â Debbie trwy e-bost ar debbie@carmarthenshirecarers.org.uk neu trwy cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gâr ar 0300 0200 002