Cyfleoedd Gyrfa gyda Croesffyrdd Sir Gâr
Credem mai ein henw da am ragoriaeth mewn gofal, ynghyd â ein hymrwymiad i staff sy’n gosod ni ar wahân o sefydliadau eraill ac sy’n gwneud ni yn lle gwych i weithio.
Pam dylech weithio gyda ni:
Staff Cyfeillgar
Amgylchedd Gweithio Croesawgar
Oriau Gweithio Hyblig
Cyfraddau Cyflog Cystadleuol
Hyfforddiant a Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd am ddim
Tâl Gwyliau
Oriau dan Gontract
Cyfle i astudio Cymwysterau
Dilyniant Gyrfa o fewn y Cwmni
Cerdyn disgownt NUS
Pensiwn Cyfrannol
Dtablygiad Personol Parhaus
Cwnsela a Chefnogaeth Gweithwyr
Swyddi Gwag Cyfredol
Gwelwch isod ein rhestr o swyddi gwag cyfredol. Rydym hefyd yn hysbysebu swyddi gwag ar indeed.com ac ar ein tudalen Facebook.
Cysylltwch gyda ni dros e-bost ar hrenquiries@carmarthenshirecarers.org.uk am ragor o wybodaeth.
Swyddogion Gwybodaeth i Ofalwyr – wedi’u lleoli yn yr ysbyty
28 awr yr wythnos, i gael eu gweithio’n hyblyg
Pwynt 15 Meingefn yr NJC – £22,991 y flwyddyn (ar gyfartaledd)
2il o Ionawr 2020 i’r 31ain o Fawrth 2021
Swydd 1: Wedi’i lleoli yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli
Swydd 2: Wedi’i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Glangwili, Caerfyrddin
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o elusen, sy’n hwyluso a galluogi Gofalwyr i fwynhau ymdeimlad uwch o les. Ydych chi’n angerddol am gefnogi pobl, gweithio mewn partneriaeth a gwella profiadau pobl o gael eu rhyddhau o’r ysbyty a throsglwyddo gofal?
Bydd y swyddi newydd hyn, sy’n rhan o brosiect ehangach ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a hyfforddiant yn yr Ysbyty, ac yn gweithio’n uniongyrchol â staff ysbyty, Gofalwyr a’u teuluoedd, i’w cynorthwyo yn yr ysbyty ac ar ôl eu cyfnod yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Cyffredinon Gorllewin Cymru.
Mae’r swydd hon yn galw am wiriad DBS uwch, ynghyd â gwiriad rhestr gwahardd oedolion.
Dyddiad cau: 5yh ar ddydd Mercher 11eg o Ragfyr 2019
Cynhelir cyfweliadau ar y 18fed o Ragfyr 2019 yn Llanelli
Ar gyfer ymholiadau a phecyn cais, ffoniwch: 0300 0200 002 / neu e-bostiwch:
1 X Gweithiwr Cymorth Allgymorth Gofalwyr – Yn y Gymuned
22.5 awr yr wythnos
Pwynt 8 Meingefn yr NJC – £19,945 y flwyddyn (ar gyfartaledd)
Gan fod cynnydd yng ngalw am y gwasanaeth hwn, mae cyfle wedi codi am swydd fel Gweithiwr Cymorth Allgymorth i ddarparu cymorth ychwanegol i ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin. Darparir Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i bobl sy’n gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog sy’n oedrannus, yn sâl neu gydag anabledd.
Mae pob swydd yn galw am wiriad DBS uwch, ynghyd â gwiriad rhestr gwahardd oedolion.
Dyddiad cau: 5yh ar ddydd Mercher 11eg o Ragfyr 2019
Cynhelir cyfweliadau ar y 18fed o Ragfyr 2019 yn Llanelli
Ar gyfer ymholiadau a phecyn cais, ffoniwch: 0300 0200 002 / neu e-bostiwch:
Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr
Mynychir ein Gweithwyr Cefnogi Gofalwyr anwythiad cynhwysfawr ac ymgymerir cysgodi gydag aelodau o staff profiadol eraill cyn darparu gofal. Mae’r anwythiad wedi’i strwythuro yn ôl anghenion Sgiliau am Ofal Safonau Sefydlu Cyffredin. Mae hyn yn cynnwys modiwlau a addysgir o gwmpas:
- Gweithio o fewn Sylfaen Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol
- Cyfathrebu Effeithiol am y Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr
- Datblygiad Proffesiynol a’r Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr
- Symud a Thrin yn fwy Diogel
- Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng
- Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Diogelu Unigolion
Amser yn cael ei gwario yn cysgodi aelodau profiadol o staff gofal trwy gefnogi unigolion sydd gydag amrywiaeth eang o anghenion cymorth. Yn ystod yr amser hwn, mae adborth ar gynnydd y Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr yn cael ei geisio wrth ei fentor ac wrth ddefnyddwyr gwasanaeth a’r cymorth priodol sy’n cael ei roi iddynt gan ei Rheolwr Llinell. Mae cysgodi yn caniatáu cyfle wedi’i reoli ac arsylwi am wybod a sgiliau wedi’i ennill yn ystod wythnos gyntaf o’r anwythiad i gael ei roi mewn i ymarfer.
Disgwylir i bob Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr cwblhau QCF Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, cysylltwch naill ai dros deleffon ar 01554 754957 i siarad â Chelsey, neu e-bostiwch chelsey@carmarthenshirecarers.org.uk
Isod yw’r Disgrifiad Swydd a Manyleb Person ar gyfer rôl Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr. Gallech lawr-lwytho ffurflen gais a danfon dros e-bost i hrenquiries@carmarthenshirecarers.org.uk